Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 8 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Andrew RT Davies (Cadeirydd) (yn lle Darren Millar) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru Andrew Walker, Head of Capital, Estates and Facilities Jean White, Chief Nursing Officer/Nurse Director for NHS Wales Dave Thomas, Director of Health and Social Care Huw Vaughan Thomas, Auditor General for Wales, Wales Audit Office |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro
1.1 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau am Gadeirydd dros dro i’r Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.22. Cafodd Andrew RT Davies ei enwebu gan Mohammad Asghar, a chafodd ei ethol yn briodol drwy hynny yn Gadeirydd.
2. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar; roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran.
2.3 Roedd yr Aelodau am i’w dymuniadau gorau gael eu cyfleu i Darren Millar am wellhad buan.
3. Trafodaeth am yr amcangyfrif diwygiedig o incwm a threuliau swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013
3.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amcangyfrif diwygiedig o incwm a threuliau swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).
5. Trafodaeth am yr adroddiad drafft ar yr amcangyfrif o incwm a threuliau swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013
i5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar ei amcangyfrif o incwm a threuliau swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2013. Cytunodd y Pwyllgor i wneud mân newidiadau i’r adroddiad; byddai’r rhain yn cael eu hanfon at aelodau’r Pwyllgor drwy e-bost er mwyn cytuno arnynt.
6. Arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion: tystiolaeth gan Brif Weithredwr GIG Cymru
6.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Jean White, Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru; ac Andrew Walker, Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau.
6.2 Estynnodd y Pwyllgor groeso i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas, o Swyddfa Archwilio Cymru.
6.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
6.4 Gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am bum munud, yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, o ganlyniad i nam technegol.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
7. Papurau i'w nodi
7.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 18 Hydref 2011.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.